Pam y gwnaethoch chi ddod at Môn CF? Why did you come to Môn CF?
Mi wnes i ddod at Môn CF ar ôl graddio yn y Brifysgol pan roeddwn i’n 21 oed. Gorffennais radd mewn Bioleg, ond wnes i ddim mwynhau'r cwrs, felly dechreuais edrych am opsiynau eraill.
I came to Môn Cf after graduating university at the age of 21. I’d finished a degree in Biology, but I hadn’t enjoyed it, therefore I started to explore different options.
A wnaethoch chi unrhyw hyfforddiant? Did you do any training?
Tra roeddwn i hefo Môn CF, mi wnes i fynychu 6 cwrs a chael tystysgrif ym mhob un ohonynt: Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gweithio mewn Tîm, Cymorth Cyntaf, Egwyddorion Codi a Chario, Gofal Bwyd mewn Arlwyo ac adeiladu hyder. Fel bonws, ddaru Môn CF annog imi ddechrau dreifio i helpu hefo’n hyder i, ac mae’r gwersi yn mynd yn wych! Mi wnes i basio’n theori wrth fynychu sesiynau yn swyddfa Môn CF.
While I was with Môn CF, I attended 6 courses, all of which I completed and gained a certificate for: Customer Service Skills, Team Working, Emergency First Aid, Principles of Manual Handling, Food Safety in Catering and Confidence Building. As a bonus, Môn CF encouraged me to start driving and with the support it has built my confidence, and I believe the lessons are going well! I also passed my theory by attending supervised sessions at the Môn CF offices.
A wnaethoch unrhyw wirfoddoli neu brofiad gwaith? Did you do any volunteering or work experience?
Roeddwn i'n gwirfoddoli yn barod cyn dod at Môn CF, mewn diwydiant ffilm. Mwynheais bob eiliad o weithio mewn ffilm, dwi'n mwynhau gymaint dwi wedi dechrau cael fy nhalu am weithio yno! Hefo’r gwaith rhan-amser ddaru Môn CF ffeindio i mi, mi rydw i’n gallu gweithio o gwmpas y gwirfoddoli.
I was already volunteering in the film industry before coming to Môn CF. I’ve loved every second of working in film and presently, I’m even starting paid work for the film project! With the part-time work Môn CF helped me find, it allowed me to work around my volunteering.
Beth ydych chi'n ei wneud nawr? What are you doing now?
Mi wnaeth Môn CF helpu i mi ddod o hyd i waith mewn Caffi, ac er bod y Caffi'n agos, nid oes rhaid i mi boeni am drafeilio! Wrth weithio rhan-amser yn y Caffi, mae’n caniatau i mi weithio o gwmpas y gwirfoddoli. Roeddwn i’n awyddus iawn dod o hyd i waith a sgwrsio hefo cyflogwyr, gan fy mod i heb gael swydd oedd yn talu o’r blaen – ond mae’r profiad yma wedi helpu i mi ennill hyder. Dwi’n ffrindiau hefo grŵp grêt yn y Caffi, sy’n helpu i mi gymdeithasu mwy!
Môn CF helped me find work in a Café and due to the Café being local, I didn’t have to worry about transport! Working part-time at the café has allowed me to work around my volunteering. I was very anxious about approaching potential employers as I suffer from social anxiety disorder and had not had a paid job before - having this experience helped me gain my confidence. I’ve found a great group of people to work alongside at the Café, and that always helps with improving your social life!
Beth yw'r peth gorau am Môn CF yn eich barn chi? What do you think is the best thing about Môn CF?
Dwi’n ddiolchgar iawn am Môn CF, heb yr help a’r gefnogaeth gefais ganddynt, mi fyswn i mewn lle llawer anoddach yn fy mywyd nawr. I gloi, mae Môn CF yn hyfryd ac yn cyfrannu llawer i’r gymuned ar draws Ynys Môn. Diolch am wneud newid positif i fywydau llawer o unigolion!
I’m extremely thankful and grateful to Mon CF, as without them I wouldn’t have this job opportunity and I’m certain I’d be in a much more difficult place in my life. All in all, Mon CF are wonderful and contribute to the community across Anglesey. Thanks for making a positive difference to what I’m sure is a lot of people’s lives!
Comments