Nod prosiect Ehangu Gorwelion Môn, sydd yn derbyn cymorth ariannol o £1.3 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a £388k o'r Arian Cyfatebol sydd wedi'i Dargedu drwy Lywodraeth Cymru, ydi i fynd i'r afael â thlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy.
Mae’r prosiect sydd yn cael eu hadnabod fel cefnogaeth “mewn gwaith” ac yn anelu i leihau niferoedd tangyflogaeth a chyfraddau absenoldeb. Drwy weithio gydag unigolion i wella eu sefyllfa marchnad llafur hwy ac i geisio goresgyn unrhyw rwystrau i ddilyniant. Gallai hyn arwain at gynnydd yn yr oriau a weithir, symud i swydd arall sy'n defnyddio sgiliau presennol yn well neu gael cytundeb parhaol.
Yn wreiddiol nodwyd mai prosiect 4 mlynedd fyddai hon yn rhedeg o Hydref 2018 hyd at Hydref 2022, ond bellach mae’r prosiect wedi cael i ymestyn am flwyddyn ychwanegol yn dilyn eu llwyddiant, uynghyd a’r galw cynyddol o gymorth sydd eu hangen yn yr ardal.
Hyd yma, gyda chefnogaeth cronfeydd yr UE drwy Lywodraeth Cymru, rydym wedi cefnogi 325 o drigolion ar Ynys Môn gyda 165 o'r rheini wedi gwella eu hamgylchiadau cyflogaeth. Gyda'r cyllid wedi'i sicrhau i weithredu am flwyddyn ychwanegol, bydd y prosiect yn anelu at ymgysylltu ag o leiaf 660 o gyfranogwyr sy'n cael eu tangyflogi hyd at 2023, a hynny’n 'Ehangu Gorwelion Môn'.
Dywedodd Ken Skates Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru "Rwy'n falch iawn o weld bod prosiect Gorwelion Ehangu Môn wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall tan 2023. Mae eisoes wedi bod yn hynod werthfawr i'r ardal gyda 165 o drigolion Ynys Môn yn cyflawni gwelliant yn eu hamgylchiadau cyflogaeth o ganlyniad i gymryd rhan hyd yma. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol dros ben, ac fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae buddsoddi mewn sgiliau ac annog cyflogaeth gynaliadwy yn allweddol i adferiad Cymru."
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn helpu i greu swyddi, cefnogi busnesau lleol a gwella sgiliau. Yn ystod ail hanner 2020, cefnogodd y prosiect 200 o fusnesau ar Ynys Môn i ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel, gan ddilyn canllawiau Covid. Drwy gyfrwng blychau Covid a reolir gan ein Swyddog Cymorth i Gyflogwyr, darparwyd offer a dolenni perthnasol i adnoddau ar-lein i roi'r wybodaeth yr oedd ei hangen ar berchnogion busnes i fasnachu'n ddiogel.
Rydym yn hynod galonogol i gael parhau i ddarparu'r gwasanaeth cefnogaeth cyflogaeth mewn gwaith i mewn I 2023 ac edrychwn ymlaen at gynorthwyo i adeiladau economi sydd yn ffynnu a llewyrchu, gwella sgiliau a chynorthwyo pobl fewn i with.
Mewn gwaith neu allan o waith? Gallwn eich helpu.
Comments