Sarah Mclaren, 23 oed, Pobydd dan Hyfforddiant yn Becws Mefus yn Llangefni Symudodd Sarah Mclaren, sy'n wreiddiol o East Suffolk, i Ogledd Cymru i astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl cwblhau ei gradd, roedd Sarah yn chwilio am waith rhan-amser, felly aeth i Ganolfan Swyddi Bangor i gael cefnogaeth. Cyfeiriodd hyfforddwr gwaith Sarah, Siôn, tuag at leoliad Cynllun Kickstart fel Pobydd/Melysuydd dan Hyfforddiant yn Becws Mefus, ac mae hi wedi bod yn gweithio yno’n hapus ers mis Mai eleni. Mae Ben, perchennog Becws Mefus yn falch iawn o foeseg waith gyffredinol Sarah ac yn hapus i’w chael hi ar y tîm. Fel rhan o leoliad Cynllun Kickstart, bydd Sarah yn cwblhau rhai cyrsiau hyfforddi perthnasol trwy Môn CF dros y misoedd nesaf, i ddatblygu ei set sgiliau. Mae sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol Sarah a'i phersonoliaeth fyrlymus yn wirioneddol ddisglair. Roedd yn galonogol pan ymwelon ni a cherddodd bachgen ifanc allan o’r becws ar ôl bod i mewn gyda’i fam a dweud “waw, dyna’r ddynes galetaf i mi ei chyfarfod erioed”. Da iawn, Sarah! Gweld pob cyfle Kickstart yma.
top of page
bottom of page
Comments