top of page

Rhaglen Eiddo Gwag - Diweddariad ar eiddo Môn CF

Mae dipyn o amser wedi mynd heibio ers i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud drwy ein Prosiect Eiddo Gwag sy’n digwydd yng Nghanol Tref Caergybi.


Mae’r prosiect wedi’i effeithio gan ffactorau y tu allan i’n rheolaeth, fel costau byw a chwyddiant, sydd wedi achosi oedi annisgwyl i’r gwaith.


Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghaergybi, ac i adael i chi wybod fod y cynlluniau’n dal i fynd ymlaen – er eu bod wedi’u dal yn ôl  ychydig o gymharu â’n cynllun gwreiddiol.


Yn y post hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o amcanion y prosiect, ac yn rhoi diweddariad i chi ar bob adeilad, er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Gwaith arnynt.


Be ydi’r Rhaglen Eiddo Wag?

Mae'r prosiect yn ymwneud â phrynu eiddo gwag, a buddsoddi yn eu hadnewyddu, i ddarparu eiddo fforddiadwy i fusnesau a thrigolion lleol fyw neu weithio ynddynt.


Ein huchelgais yw creu mannau y mae pobl eisiau ymweld â nhw a gwneud canol y dref yn gyrchfan ar gyfer profiadau a chynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref yn gyffredinol a bod o fudd i bawb yma yn y tymor hir.


Mae'r adeiladau'n cynnwys yr hen HSBC, Central Buildings (hen swyddfa Gyrfa Cymru), 9 Stryd Stanley, 14a a 14b Stryd Stanley (hen County Stationers).


Diweddariad Adeiladau Môn CF:


Hen Adeilad HSBC:

Dyma'r mwyaf o'n prosiectau ac mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddem wedi gobeithio wrth gychwyn ar y cynllun.


Mae’r cynnydd dramatig mewn costau adeiladu oherwydd chwyddiant wedi golygu na allai ein cyllideb wreiddiol gyflawni’r hyn yr oeddem wedi’i gynllunio’n wreiddiol, felly bu’n rhaid i ni ddiwygio ein cynlluniau i ddod â’r costau adeiladu i lawr.


Ni fydd defnydd yr adeilad yn y tymor hir yn newid yn sylfaenol gyda'r llawr gwaelod yn fwyty ac yn ystafell tap cwrw crefft leol ar wahân. Bydd y 2 lawr uchaf yn ystafelloedd llety dros nos.


Mae'r tendr diwygiedig yn dal yn fyw am wythnos arall ar wefan felly byddwn yn gwybod cyn diwedd mis Gorffennaf pwy fydd y contractwr llwyddiannus. Ym mis Awst byddwn yn gweld gwaith yn dechrau ar yr adeilad gyda'r holl waith i'w gwblhau erbyn diwedd Awst 2025.



Central Buildings (hen swyddfa Gyrfa Cymru):

Mae hwn hefyd yn adeilad mawr yng nghanol y dref. Am resymau tebyg i'r HSBC, mae chwyddiant wedi cael effaith andwyol ar ein cynllun gwreiddiol. Rydym wedi cwtogi rhywfaint ar y gwaith ar yr adeilad er mwyn sicrhau ein bod yn cael y prosiect yn ôl o fewn y gyllideb.


Bydd defnydd yr adeilad yn aros yr un fath sef caffi ar y llawr gwaelod a stiwdio drama a dawns ar y 2 lawr uchaf.

Mae’r tendr ar gyfer y gwaith hwn hefyd ar wefan GwerthwchiGymru a disgwylir iddo gau'r wythnos nesaf, a disgwyliwn benodi contractwr adeiladu ddiwedd mis Gorffennaf 2024. Bydd gwaith ar yr adeilad yn dechrau ym mis Awst 2024 gyda dyddiad cwblhau tua mis Mehefin 2025.


9 Stryd Stanley:

Disgwylir i'r adeilad hwn gael ei gwblhau erbyn mis Awst 2024 ac mae'n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gan Adeiladwyr Môn Cyf.


Bydd y llawr gwaelod yn siop sy'n gwerthu sebon a wnaed yn lleol ac eitemau eraill wedi'u gwneud â llaw.


Fflat 2 ystafell wely newydd fydd y ddau lawr uchaf. Bydd hwn yn cael ei gynnig i'w rentu i deulu lleol yn fuan.


14a a 14b Stryd Stanley (hen County Stationers):

Mae'r adeilad hwn yn profi'n eithaf trafferthus. Mae arolwg wedi canfod Trawstiau Dur diffygiol ar lefel y llawr cyntaf.


Bydd yn rhaid ailosod y Trawstiau Dur hyn cyn y gellir dechrau unrhyw waith ar yr adeilad.


Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud erbyn diwedd 2024, a disgwylir y bydd y gwaith adnewyddu llawn yn dechrau yn gynnar yn 2025 a’i gwblhau yn haf 2025.


I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Môn CF ar 01407 762 004

bottom of page