Yn anffodus mae Môn CF yn gorfod cyhoeddi y byddwn yn cau ei swyddfeydd yng Ngwynedd yn Ionawr 2023.
Agorwyd ein swyddfeydd yn Stryd y Deon, Bangor a Stryd Llyn, Caernarfon yn benodol i roi cymorth i drigolion Gwynedd drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd. Gyda chyllid Ewropeaidd bellach yn dod i ben, nid oes gennym unrhyw ddewis arall ond rhoi'r gorau i'n gwasanaeth yn y ddau leoliad yma.
Hoffem ddiolch i'n holl gleientiaid yng Ngwynedd am ymddiried yn Môn CF i'w cynorthwyo hefo'u hymdrechion. Bydd gwasanaeth Môn CF yn parhau ar Ynys Môn gyda’n timau cyflogaeth, cymorth busnes a hyfforddiant yn dal i gynnig lefel uchel o gymorth i fusnesau, y rhai sy’n dymuno dod yn hunangyflogedig ac unigolion sy’n chwilio am waith neu wella eu sefyllfa yrfaol.
Wrth i’n cyfnod yng Ngwynedd ddod i ben, rydym am adlewyrchu a dathlu llwyddiant rhai o’r unigolion rydym wedi cael pleser o weithio hefo nhw. Ers i ni agor ein swyddfeydd ym Mangor a Chaernarfon ym mis Chwefror 2021, rydym wedi cynorthwyo dros 400 o bobl, 75% ohonynt ar ein prosiect Cynhwysiant Gweithredol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a 25% o’r gweddill wedi derbyn cymorth Mewn Gwaith (arian ESF).
Gyda chefnogaeth ein tîm hyfforddi mae 127 o gleientiaid wedi derbyn ystod o gymwysterau achrededig. Rydym wedi creu dros 200 CV ac wedi helpu dros 240 o bobl i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur.
Rydym wedi gweithio hefo dros 200 o fusnesau, drwy eu cynorthwyo i recriwtio staff gan yn aml wneud defnydd o ffeiriau swyddi pwrpasol, a gwnaethom ariannu nifer o leoliadau gwaith gyda chyfraniad tuag at y cyflog. Lleolwyd 47 o unigolion mewn mentrau yng Ngwynedd a sicrhaodd dros 80% o'r unigolion hynny swyddi parhaol hefo’r busnesau hyn.
Fel esiampl, dau unigolyn derbyniodd gymorth oedd Adam Giles ac Alaw Griffiths.
Roedd Adam Giles yn ddisgybl ysgol a benderfynodd fanteisio ar ein Rhaglen Anelu yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac ers hynny mae o wedi cael cefnogaeth i basio ei brawf CSCS a derbyn ei Gerdyn Llafurwr.
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus wrth fynd at Mȏn CF am gefnogaeth, ond fe wnaeth Rhian (Mentor Cyflogaeth) fy helpu gyda phopeth. Rwyf wedi cwblhau nifer o gyrsiau ac wedi gweld budd o gael yr Ap CSCS. Bellach mae gen i gerdyn CSCS ac rwy’n gobeithio dechrau gweithio hefo chwmni adeiladu lleol yn y flwyddyn newydd.”
Mae Alaw Griffiths, 19 oed, o'r Groeslon wedi cychwyn ar ei thaith i fod yn barafeddyg.
Pan oedd Alaw ym mlwyddyn 11, aeth ar brofiad gwaith i ysgol gynradd leol, a dyna pryd y sylweddolodd nad oedd addysgu yn addas iddi fel gyrfa a phenderfynodd y byddai’n well ganddi fod yn barafeddyg.
Ar ôl astudio Lefel A Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gwnaeth Alaw gais am gwrs Gwyddoniaeth Barafeddygol prifysgol ond bu’n aflwyddiannus gyda’i chais oherwydd diffyg profiad perthnasol yn y sector.
Daeth Alaw i Môn CF ar ôl cyfarfod â ni yn ein ffair swyddi yng Nghaernarfon nôl ym mis Chwefror 2022; roedd hi'n gweithio ar gontract oriau sero mewn Rheilffordd Dreftadaeth leol ar y pryd. Roedd hi angen cyngor ar ffyrdd y gallai feithrin y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol yn y sector gofal i allu ail-ymgeisio ar Gwrs Parafeddygol yn y Brifysgol y flwyddyn ganlynol.
Yn gyntaf, derbyniodd Alaw gefnogaeth gyda’i CV i baratoi i ddechrau chwilio am swydd a chwblhaodd hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith, Codi a Chario, Diogelu, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad. Unwaith y cafodd Alaw ei CV gyda’r holl gymwysterau newydd hyn, cafodd Alaw gymorth gan Rhian (Mentor) hefo gwneud ceisiadau am swyddi a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliadau. Llwyddodd Alaw i sicrhau rôl Cynorthwyydd Banc Gofal Iechyd yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n mwynhau'r rôl yn fawr.
Dywedodd Alaw:
“Mae gen i restr o gymwysterau na fyddwn i wedi’u cael o’r blaen, mae hynny i gyd oherwydd Môn CF. Pe na bawn i wedi dod yma, ni fyddwn wedi cael yr holl gymwysterau yma ac ni fyddai unrhyw ffordd arall i mi eu cael ychwaith. Roedden nhw'n edrych yn dda ar fy CV ac yn fy ngalluogi i gael y swydd. Helpodd Rhian fi hefo fy CV a hefo ffurflen gais, gwnaeth hi bopeth a dweud y gwir. Roedd hi’n wych, roedd hi'n barod iawn i helpu. Gwnaeth Rhian bopeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cyfan yn mynd yn iawn. Aeth hi du hwnt i’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl."
Trwy weithio'n frwd mewn amgylchedd gofal, bydd Alaw rŵan yn gallu darparu digon o dystiolaeth i hybu ei rhagolygon o sicrhau lle mewn prifysgol pan fydd hi’n gwneud cais ym mis Ionawr 2023. Ei nod yw dod yn barafeddyg a bydd yn parhau i weithio ar y banc tra bydd hi’n astudio.
Hwyl fawr, am y tro Gwynedd. Mae wedi bod yn bleser.
Commentaires