top of page

Grŵp Bwytai Dylan’s yn Lansio Academi Hyfforddiant Lletygarwch



12 lle y flwyddyn ar gael ar y brentisiaeth gyda thâl llawn, ym mhob maes o’r busnes.


Lansiodd y grŵp bwytai o Ogledd Cymru, Dylan’s, eu hacademi hyfforddiant lletygarwch yr wythnos hon.


Nod yr Academi yw helpu i greu rhaglen hyfforddiant prentisiaeth gynaliadwy a hygyrch i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i yrfa werth chweil a llawn boddhad mewn lletygarwch, gyda swydd yn cael ei gwarantu ar ddiwedd eu cwrs.


Dywedodd Cyfarwyddwr Dylan’s, David Evans: “Rydyn ni’n gwahodd 12 cadét ifanc i gymryd rhan yn y rhaglen 2 flynedd, gan ddysgu ac ennill profiad ym mhob maes o’n busnes, gan ddechrau ar eu lefel eu hunain.”


Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus i Academi Dylan’s yn elwa o dâl uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol drwy gydol eu hyfforddiant a’u haddysg fel cadetiaid.


Meddai David Evans wedyn: “Dros y blynyddoedd, mae rhai busnesau lletygarwch wedi manteisio ar brentisiaid ifanc drwy osod gwaith cyn addysg, gyda chyflog bach iawn. Byddwn yn troi hyn ar ei ben ac yn gwobrwyo ein cadetiaid am eu cyfraniadau a'u buddsoddiad.”


Byddant yn treulio 35 awr yr wythnos yn dysgu yn ymarferol yn y busnes, a 5 awr yr wythnos yn canolbwyntio ar waith ysgrifenedig ac astudio hanfodol, a’r cyfan dan arweiniad Arweinydd Academi profiadol Dylan’s a Mentor personol.


“Mae'r diwydiant lletygarwch wedi dioddef dros y blynyddoedd, gan ddisgwyl i recriwtiaid newydd fod yno pan mae eu hangen” meddai David Evans, “ond rydyn ni'n profi diffyg ymgeiswyr medrus, rhywbeth rydyn ni'n gwybod y mae’n rhaid i ni roi sylw iddo yn y tymor canolig i'r tymor hir, os ydyn ni am gadw'r diwydiant i symud”.


Mae gan Arweinwyr Academi Dylan’s fwy na 100 mlynedd o brofiad ar y cyd ym maes lletygarwch mewn gwahanol feysydd o’r diwydiant a byddant yn croesawu darpar gadetiaid mewn sawl diwrnod agored mewn ysgolion a cholegau drwy’r Hydref. Ddydd Llun Tachwedd 8fed, cynhelir Diwrnod Agored yr Academi yn Dylan’s Porthaethwy, gan gyflwyno arweinwyr yr Academi i ddarpar gadetiaid a gwesteion sydd â diddordeb.


Mae’r grŵp bwytai yn ffurfio partneriaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai i ddarparu cymwysterau lefel NVQ a chefnogaeth addysgol fel rhan o ffocws academaidd yr Academi. Busnes@LlandrilloMenai yw adran prentisiaethau a masnachol Grŵp Llandrillo Menai.


Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith yn Busnes@LlandrilloMenai:


“Mae Academi Hyfforddiant Lletygarwch Dylan’s yn cynnig cyfleoedd cyffrous i brentisiaid gychwyn ar hyfforddiant gan wybod bod gyrfa gyda Dylan’s yn aros amdanyn nhw. Mae Dylan’s yn mynd i’r afael â phrinder staff ym maes Lletygarwch ac Arlwyo yn uniongyrchol gyda’r fenter hon, drwy roi i’r prentisiaid sgiliau, profiad a chefnogaeth i lwyddo ac mae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o gefnogi’r Academi drwy ddarparu hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol.”


Mae Dylan’s hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Môn CF Anglesey & Gwynedd a Gwaith Gwynedd wrth chwilio am gadetiaid sydd â diddordeb ac yn gyffrous am ddysgu crefft newydd a datblygu gyrfa yn y diwydiant lletygarwch.


Dywedodd Rees Brown, Rheolwr Cefnogi Busnes gyda Môn CF Anglesey & Gwynedd: “Rydyn ni’n hynod gyffrous ein bod yn gweithio ochr yn ochr â Dylan’s i gefnogi cyflwyno eu rhaglen Academi newydd mewn cydweithrediad â Busnes@LlandrilloMenai a Gwaith Gwynedd. Mae Academi Dylan’s yn gyfle gwych i unigolion angerddol ennill profiad gyda thâl, uwchsgilio gyda chymwysterau achrededig a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy gyda chwmni sy’n tyfu’n gyflym mewn sector sydd mor bwysig i economi Gogledd Cymru.”


Bydd cadetiaid yr Academi’n cael cyfle i gael swyddi yng ngheginau’r bwytai ac fel aelodau o’r timau blaen tŷ. Bydd swyddi hefyd fel rhan o’r tîm gweinyddol yn y brif swyddfa, yn Siop Dylan’s neu yn y becws a’r gegin cynhyrchu manwerthu.


Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd a Chymunedol yng Nghyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydyn ni’n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr ag Academi Sgiliau Dylan’s drwy ein rhaglen cyflogadwyedd Gwaith Gwynedd.


“Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i'r diwydiant lletygarwch, ond wrth i ni edrych i'r dyfodol mae'n bwysig sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiad i ddod yn ffigurau blaenllaw yn y diwydiant. Drwy roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth gobeithiwn eu gweld yn datblygu gyrfa gynaliadwy gyda busnes ag enw da yn y diwydiant. Mae'n gyfle gwych i bobl ifanc leol wella eu sgiliau wrth ennill cyflog cystadleuol hefyd.”


“Bydd Gwaith Gwynedd yn ceisio dod o hyd i bobl ifanc addas ar gyfer yr Academi a’u paratoi ar gyfer y cyfle o gamau cyntaf yn y diwydiant lletygarwch, drwy gynyddu eu hyder a’u gwytnwch ar gyfer y dyfodol.”


Mae Dylan’s yn gobeithio agor y drws i letygarwch drwy ei Academi, gan ddarparu hyfforddiant pwrpasol mewn gwahanol feysydd ar draws eu bwytai a’u busnes manwerthu bwyd, yn ogystal ag yn y swyddi Blaen Tŷ a Chegin disgwyliedig.


“Nid dim ond y croeso a’r pryd bwyd yw lletygarwch…” eglura Andy Foster, Cogydd Gweithredol yn Dylan’s, “mae llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni, nifer enfawr o swyddi nad oes neb yn meddwl amdanyn nhw fel arfer mewn perthynas â lletygarwch.”


Bydd y cwrs cyfan yn cynnwys rhaglen brentisiaeth lawn amser gyda thâl am 2 flynedd, gan arwain at NVQ lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol ar gyfer cadetiaid Cegin.


Ar gyfer Blaen Tŷ, byddant yn ymgymryd â BIIAB, Sgiliau a Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig Lefel 2/3, gan arwain at gymhwyster Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch City & Guilds.


Nod Dylan’s yw gweld ei Academi hefyd yn creu templed defnyddiol i fusnesau lletygarwch eraill ei ddefnyddio yn y dyfodol, gan gynorthwyo gyda’u hymdrechion i recriwtio talent i’r diwydiant.


Comments


bottom of page