top of page

Diweddariad Adnewyddu Eiddo

Bydd rhai trigolion yng Nghaergybi wedi sylwi yn ddiweddar fod arwyddion wedi dechrau ymddangos mewn siopau gwag yng nghanol y dref. Mae'r arwyddion hyn yn cadarnhau bod yr adeiladau bellach ym mherchnogaeth Môn CF - sydd ei hun ym mherchnogaeth y gymuned leol.


Bydd yr eiddo hyn rwan yn cael eu hadnewyddu i safon uchel gan Môn CF fydd yn ddefnyddio contractwyr adeiladu lleol. Maes o law, bydd yr adeiladau hyn yn cael eu cynnig am renti fforddiadwy i fusnesau lleol newydd neu sefydledig. Yn ogystal â’r llefydd i fasnachu fydd ar gael i’w rentu, bydd rhai o’r adeiladau hyn hefyd yn cynnig llefydd byw o safon uchel i bobl leol – eto am renti fforddiadwy.


Bydd unrhyw rent dros ben yn cael ei fuddsoddi yn ôl i gynnal a chadw'r holl eiddo hyn yn ogystal â chael ei ddefnyddio i brynu eiddo gwag neu adfeiliedig eraill yn y dref.

Mae’r rhaglen hon o brynu adeiladau gwag yn ei dyddiau cynnar ond y nod tymor hir yw dod â bywyd yn ôl i ganol y dref a sicrhau bod yr adeiladau’n eiddo i’r gymuned a bod unrhyw incwm rhent a gynhyrchir yn aros o fewn y dref.


Mae Môn CF hefyd yn gwneud yr un gwaith mewn ardaloedd eraill ac un enghraifft o'r fath yw hen Fanc Barclays yn Amlwch. Bydd yr adeilad hwn yn agor yn fuan fel swyddfa newydd Môn CF yn y dref yn ogystal â chreu dwy fflat newydd i’w rhentu i drigolion lleol am renti fforddiadwy.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y rhaglen caffael a datblygu eiddo hon, cysylltwch â Môn CF ar 01407 762004 a gofynnwch am Rita Lyon.

Comments


bottom of page