Mae rhaglen Ehangu Gorwelion Mȏn yn dathlu cefnogi mwy na 600 o bobl ar draws Môn a Gwynedd i geisio mynd i’r afael â thlodi mewn gwaith.
Prosiect sy’n cael ei arwain gan fudiad trydydd sector Môn CF (Cymunedau Ymlaen Môn) ydi ‘Ehangu Gorwelion Môn’ ac mae’n cefnogi unigolion sydd â rhwystrau megis ymrwymiadau gofal plant, cyflyrau iechyd neu anawsterau hefo cludiant, sy’n eu hatal rhag gwella eu sefyllfa yn y farchnad lafur. Mae'r prosiect bellach wedi darparu cymorth cyflogaeth i fwy na 600 o unigolion ac mae mwy na 350 o'r unigolion hynny wedi cael cymorth i wella eu sefyllfa o fewn y farchnad lafur ar Ynys Môn a rhannau o Wynedd. Ar y dechrau dim ond unigolion ar Ynys Môn oedd yn derbyn Cymorth gan y prosiect ond rhoddwyd caniatâd i’r prosiect ehangu i gynnwys rhai o ardaloedd Gwynedd hefyd, gyda’r nod o gefnogi cyfanswm o 660 o gyfranogwyr erbyn diwedd Mehefin 2023.
Mae’r cynllun £1.7 miliwn yn cael ei ariannu gan £1.3m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw lleihau tangyflogaeth a lleihau tlodi mewn gwaith trwy gefnogi pobl i ddod o hyd i atebion i faterion sy’n cynnwys gofal plant a thrafnidiaeth a mynd i’r afael â nhw trwy wasanaeth mentora un-i-un ac ymdrin â gwahanol arferion gwaith trwy ddarparu C.V., cynorthwyo gyda cheisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Mae staff y prosiect wedi cefnogi unigolion i ailhyfforddi, sicrhau oriau ychwanegol hefo’u cyflogwr presennol neu sicrhau cytundeb gwaith mwy sefydlog a mwy hir dymor, gan helpu pobl i symud tuag at ddyfodol mwy disglair a mwy llewyrchus.
Mae ‘Ehangu Gorwelion Mȏn’ hefyd wedi cefnogi mwy na 280 o gyflogwyr hyd yma, gan ganolbwyntio’n benodol ar fentrau maint bach a chanolig lleol, i fabwysiadu neu wella eu strategaethau gweithle presennol a hybu iechyd galwedigaethol gwell gan fabwysiadu polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae’r prosiect arloesol hwn yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sydd mewn gwaith i wella eu cyfleoedd o fewn y gweithle a chreu dyfodol mwy disglair iddynt eu hunain gyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth a gynigir. Yn ogystal cynigir cefnogaeth i fusnesau lleol i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
Comments