top of page

Cymorth i gael swydd

 Cymorth positif a chadarnhaol o gymorth am dros 12 mlynedd ar gael i drigolion Môn i ddod o hyd i swyddi ac i gychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus   

Llwybrau i alluogi pawb ym Môn i gael gwaith!

 Os ydych chi un ai’n ddi-waith ac yn chwilio am swydd, neu eisoes mewn gwaith ac yn dymuno cyfleoedd gwell, mae ein tîm yma ar gael i’ch helpu.   

 Mae ein Mentoriaid ar gael i'ch helpu cael gwaith cyn belled â’ch bod yn gyw ar yr ynys. Bydd yna lwybr unigryw i chi yn eich disgwyl a byddwn yma i'ch helpu troedio’r llwybr tuag at ddyfodol disglair ym myd gwaith!   

Coffee Shop_edited_edited.jpg

Cefnogi pobl i waith – y flwyddyn 2022 

1080+

unigolyn wedi derbyn cymorth gan Môn CF

500+

unigolyn wedi derbyn swydd drwy help Môn CF

960+

unigolyn wedi derbyn sgiliau newydd neu hyfforddiant drwy ein amryw brosiectau

PCIN5326.MP4MonCF%20Multi%20Cam_edited.jpg

Prosiectau Cyflogi  

Rydym yn edrych ar bob prosiect newydd fel cyfle i wneud pethau mymryn yn wahanol. Ein nod cyson yw rhoi cymorth i unigolyn wella eu sefyllfa rhan byd gwaith. Bydd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant achrededig a darparu ar gyfer cyfweliad, mae’r cymorth yna ar eich cyfer.   

Cymorth os ydych mewn gwaith yn barod  

Cymorth sy’n helpu creu gwell dyfodol i chi. Mae angen addasu’n gyson i'r byd gwaith fel y mae hi heddiw. Mae ein cymorth wedi’i deilwrio’n bwrpasol at eich gofynion unigryw chi gyda phwyslais ar roi sgiliau i chi er mwyn eich galluogi i lwyddo yn y dyfodol. Cymerwn ystyriaeth o’r angen am gyd bwysedd rhwng gwaith a bywyd gartref a bydd ein cymorth yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch patrwm bywyd chi.  Mae’r cymorth ar gael i rywun sydd mwn gwaith neu’n ddi-waith.

Ymunwch â’r gweithlu

Rydym yn rhoi cymorth cyson i'r rhai sydd am weithio ond sydd heb fod mewn gwaith ers beth amser. Gall hyn gynnwys pobl sydd wedi ymddeol yn gynnar, gofalwyr, pobl sydd yn derbyn addysg, neu rhai sydd wedi dioddef salwch. Os ydych allan o waith ac angen help i fynd i waith, rydym yma ar eich cyfer.

Di-waith ers cyfnod byr 

Ydych newydd adael swydd neu wedi cael eich diswyddo? Ydych chi angen help ar frys i gael swydd?  Rydym yma i'ch helpu! Gall ein tîm eich cynorthwyo i gael swydd yn eich ardal neu’ch helpu i symud ymlaen hefo’r cam nesaf yn eich gyrfa.  Dewch atom i gael yr adnoddau y byddwch eu hangen, gan gynnwys help hefo ffurflenni cais, cyrsiau hyfforddiant, neu beth bynnag fyddwch eu hangen ar gyfer eich cam nesaf. Mae Môn CF yma i helpu!    

Hyfforddiant & Cyrsiau

Cewch gyfle i wneud amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys sgiliau sylfaenol, sgiliau bywyd a datblygu gyrfa. Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i fod yn ddigon hyblyg i gyd fynd â’ch anghenion personol chi. Bydd ein cyrsiau yn rai achrededig gan gynnwys rhai ar gyfer y diwydiant diogelwch a gyrru peiriant fork-lift.

Sgiliau Lleol  

 Ein nod yw gwella lefel sgiliau’r gweithlu yn yr ardal leol er mwyn sicrhau fod pobl Môn yn gallu llwyddo a ffynnu ym myd gwaith. Drwy gyfrwng gweithdai cymunedol a sesiynau hyfforddiant byddwn yn gallu sicrhau fod unigolion yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol hynny mae cyflogwyr eu hangen.  Mae ein cysylltiadau hefo cyflogwyr lleol yn gryf gyda’r bwriad o ddod i ddeall beth yw eu hanghenion hwy a drwy eich helpu chi sicrhau fod ein cymuned yn un cryf a ffyniannus.   

NHS Step Into Work Header - CYM.png

GIG! CAMU I'R GWAITH

Mae angen tim cyfan o unigolion ymroddedig i gadw'r GIG i redeg yn esmwyth.

Cofrestrwch heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at eich gyfra yn y GIG!

Ewch amdani heddiw!

Os ydych angen help i gael swydd ac yn ansicr o le i ddechrau, dewch i gysylltiad â Môn CF heddiw a gallwn eich tywys ar siwrne newydd cyffrous. 

 Cysylltwch â ni heddiw i weld sut allwn eich helpu chi i lwyddo!

bottom of page