Ein nod ydi cefnogi ysgolion, rhieni, a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.
Mae Anelu yn cefnogi pobl ifanc sydd hefo sgiliau sy'n fwy addas ar gyfer dysgu mewn ffordd wahanol llwyddo mewn i waith.
Cyflwynir Anelu fel cyfres o gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar ddiddordebau’r disgybl, gyda chyfleoedd dysgu ymarferol, llawn hwyl sy’n apelio i ddiddordeb y dysgwyr.
Beth mae Anelu yn ei wneud?
Equip young people with essential skills
Anelu positively supports young people who's abilities and aptitudes are more suited to vocational learning & gives them the skills to progress.
1
Progress people into the world of work
Pupils who want to start looking for work will have full support from the Môn CF employment team. Anelu is designed to prepare pupils for work through vocational workshops.
2
Boost confidence & interpersonal skills
Anelu helps pupils build confidence and learn new interpersonal skills that help them work as part of a team when they enter the world of work.
3
Anelu'n Cyflwyno Canlyniadau
Cwblhaodd Cain Silence y rhaglen Anelu yn 2021.
Ar ôl teimlo effaith y pandemig yn ystod ei ddwy flynedd olaf yn yr Ysgol, daeth Cain ar raglen Anelu hefo Môn CF.
Bu Anelu o help i Cain i adeiladu set sgiliau gwerthfawr a'i helpodd i ddod o hyd i waith.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer Anelu
Mae’n bosibl bod yr ysgol neu’r awdurdod lleol wedi dewis eich plentyn, ymhlith eraill, ar gyfer y rhaglen Anelu, i gynyddu nifer y cymwysterau a’r sgiliau ar ei cyfer cyn iddynt gyrraedd oedran gadael ysgol a mynd allan i’r byd mawr.
Rydym yn credu mewn agor drysau a chreu dyfodol mwy disglair sy’n llawn cyfleoedd iddynt.
Mae’r rhaglen Anelu wedi’i dylunio fel blas o’r math o addysg, neu help i gael swydd, y gall Môn CF ei ddarparu yn y dyfodol.
Mae llwyddiant rhaglen Anelu yn dibynnu ar gefnogaeth ar y cyd gan yr ysgol, yr awdurdod lleol, a chi’r rhiant neu warcheidwad, yn ogystal â thîm Môn CF a’i hyfforddwyr, i sicrhau presenoldeb eich plentyn.