Amdanom Ni
Mae Môn CF yn elusen a chwmni cyfyngedig dan warrant sy’n eiddo i bobl Môn.
Yn wreiddiol sefydlwyd Môn CF i roi cymorth i’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar yr ynys ond erbyn hyn rydym wedi tyfu i roi cymorth i’r rheini sydd am wella eu sgiliau gwaith neu ddod o hyd i swyddi.
Mae ein gwasanaeth ar gael ledled Môn gyda phwyslais ar roi gwell cyfle i bobl gael gwaith â chyflog da, helpu unigolion i sefydlu busnesau a chynnig hyfforddiant galwedigaethol i unigolion a gweithluoedd yr ynys.
Adnabyddir ni heddiw fel y sefydliad pwrpasol ar yr ynys ar gyfer unigolion sydd am gael gwaith, sefydlu busnes neu dderbyn hyfforddiant galwedigaethol.
Rydym yn cynorthwyo cannoedd o bobl bob blwyddyn i gyrraedd eu potensial a chreu dyfodol mwy disglair iddynt.
Ein stori
Yn 2003 lansiwyd strategaeth newydd gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o wella ansawdd bywydau i nifer fawr o drigolion Cymru. Galwyd y strategaeth yma yn ‘Cymunedau’n Gyntaf’.
‘Roedd hyn yn rhywbeth arloesol gyda’r pwyslais ar gymunedau’n dod o hyd i atebion i’w problemau eu hunain. Y nod oedd rhoi’r pŵer yn nwylo pobl leol.
Ugain mlynedd yn ôl ym Môn daeth criw o bobl at ei gilydd gyda’r bwriad o gyd weithio i geisio lleihau tlodi.
O’r gwreiddiau hyn daeth Môn CF i fodolaeth ac mae’r nod o gynorthwyo cymunedau’r ynys wrth wraidd ein holl weithgareddau.
Yn sail i’n gwaith yw cynorthwyo pobl i gael gwaith o safon, sefydlu busnesau, darparu hyfforddiant galwedigaethol a chefnogi prosiectau cymdeithasol ar draws Môn.
Ers ein sefydlu rydym wedi cynorthwyo miloedd o bobl ar draws Môn a Gogledd Cymru i sicrhau swyddi cynaliadwy.
Yn ogystal mae rhai cannoedd o fusnesau wedi’u cychwyn gyda’n cymorth ac wedi dod o hyd i grantiau ac arian i’w galluogi i lwyddo.
Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i unigolion, ysgolion a busnesau ledled yr ynys.